Awgrymiadau i baratoi ar gyfer diwrnod cwblhau’r gwerthiant.
Os nad ydych yn bwriadu symud allan tan y diwrnod cwblhau, gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd yr holl gamau angenrheidiol i symud allan yn brydlon ar y diwrnod. Paciwch eich holl eiddo ymlaen llaw a gadewch cyn lleied â phosibl i’w wneud ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant.
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi archebu eich cwmni symud ymhell o flaen llaw, gan gytuno ar ddyddiadau ac amseroedd, os ydych yn defnyddio cwmni symud.
Fel arfer, bydd eich cyfreithiwr trawsgludo yn ymdrin â’r taliadau ac yn cydgysylltu hyn gyda’ch benthyciwr. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu ffioedd cyfreithiwr neu asiant eiddo ar ôl diwrnod cwblhau’r gwerthiant.
Gwnewch yn siŵr bod yr arian ar gyfer yr holl daliadau y mae’n ofynnol i chi eu gwneud yn barod i fynd.
Efallai y bydd angen i’ch cyfreithiwr trawsgludo neu eich asiant eiddo gysylltu â chi ar ddiwrnod cwblhau’r gwerthiant, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gysylltadwy drwy’r diwrnod cyfan. Gwnewch yn siŵr bod batri eich ffôn symudol wedi’i wefru a’i gadw’n uchel a gyda chi drwy’r dydd.
Hefyd, mae’n syniad da cadw copi o fanylion cyswllt eich cyfreithiwr a’ch asiant eiddo, rhag ofn y bydd angen unrhyw beth ar frys ar y diwrnod.
Cadwch yr holl ddogfennau pwysig sy’n ymwneud â gwerthiant eich tŷ a gwnewch yn siŵr eu bod yn rhywle y gallwch gael gafael arnynt ar y diwrnod cwblhau. I fod yn saff, gallech gadw copïau wedi’u hargraffu yn ogystal â chopïau rhithwir ar USB.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cadarnhau amseroedd bras cyn i’r diwrnod cwblhau ddechrau. Pan fyddwch yn gwybod ble mae eich safle yn y gadwyn dai, gofynnwch i’ch cyfreithiwr am amseroedd disgwyliedig a chynlluniwch eich diwrnod o amgylch hyn.
Os ydych yn symud i gartref newydd, cyd-gysylltwch yr amser y byddwch yn gallu symud i mewn â’r amser y byddwch yn symud allan, fel na chewch eich gadael i aros.